CLA174

 

Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

Teitl: Rheoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau (Diwygio) 2012

 

Gweithdrefn:  Negyddol

 

Mae’r rheoliadau cyfansawdd hyn yn diwygio Rheoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2010 (S.I. 2010/490) (y “Rheoliadau Cynefinoedd”). Maent yn gosod dyletswyddau newydd ar yr Ysgrifennydd Gwladol a Gweinidogion Cymru, Natural England, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd, y Comisiwn Coedwigaeth, awdurdodau lleol ac, o ran yr ardal forol, awdurdodau cymwys eraill i gymryd camau i warchod, cynnal ac ailsefydlu cynefinoedd i adar gwyllt. Mae’r rheoliadau yn gosod dyletswydd ar awdurdodau cymwys i ddefnyddio pob ymdrech resymol i osgoi llygredd neu ddirywiad yn y cynefinoedd hyn. Mae’r rheoliadau hefyd yn gosod dyletswydd ar unrhyw awdurdod cymwys, wrth arfer ei swyddogaethau, i roi sylw i ofynion Cyfarwyddeb 2009/147/EC (“y Gyfarwyddeb Adar Gwyllt”) a Chyfarwyddeb 92/43/EEC (“y Gyfarwyddeb Cynefinoedd”).

 

Mae’r rheoliadau hefyd yn gwneud nifer o newidiadau pellach i Reoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2010 er mwyn sicrhau bod rhai darpariaethau penodol yn y Gyfarwyddeb Adar Gwyllt a’r Gyfarwyddeb Cynefinoedd yn cael eu trosi’n glir.

 

Mae’r rheoliadau hefyd yn diwygio adran 15 o Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949 er mwyn gwneud yn glir y gall awdurdodau lleol ddynodi Gwarchodfeydd Natur Lleol at ddibenion ailsefydlu cynefinoedd adar.

 

Materion technegol: craffu

 

Nodwyd y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 (ix) mewn perthynas â’r offeryn hwn: nad yw wedi’i wneud yn Gymraeg ac yn Saesneg.

 

Rhinweddau: craffu

 

Nodwyd y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 (ii) mewn perthynas â’r offeryn hwn: mae’n codi materion polisi cyhoeddus sy’n debygol o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad.

 

1.   Mae’r Memorandwm Esboniadol yn datgan bod y newidiadau yn cael eu cyflwyno mewn ymateb i ohebiaeth a gafwyd gan y Comisiwn Ewropeaidd mewn perthynas â diffygion yn y ffordd y mae’r DU yn trosi’r Gyfarwyddeb Adar Gwyllt, a bod y Rheoliadau wedi’u gwneud ar sail gyfansawdd oherwydd bod gofyn eu gwneud ar frys.

 

2.   Mae’r Rheoliadau yn ddarostyngedig i’r weithdrefn negyddol. Mae gan Weinidogion Cymru, yn unol â’r dynodiad o dan Adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, ddewis o ran pa weithdrefn i’w dilyn. Er nad yw’r Rheoliadau yn diwygio unrhyw ddarpariaeth mewn Deddf neu Fesur Cynulliad, maent yn gwneud mân ddiwygiadau i ddarn o ddeddfwriaeth sylfaenol y DU.

 

3.   Mae Rheoliad 23 yn ei gwneud yn ofynnol i’r Ysgrifennydd Gwladol adolygu gweithrediad ac effaith Rheoliadau 2010 a chyhoeddi adroddiad o fewn pum mlynedd ar ôl i’r Rheoliadau hyn ddod i rym a phob pum mlynedd wedyn. Nid yw’r Memorandwm Esboniadol yn nodi pam nad ystyriwyd hi’n briodol i Weinidogion Cymru gynnal adolygiad.   

 

Fodd bynnag, mae’r Pwyllgor yn deall er bod Llywodraeth y DU bellach yn gofyn am ddarpariaethau o ran adolygu ym mhob deddfwriaeth newydd sy’n gosod baich rheoleiddiol, nid yw Gweinidogion Cymru wedi mabwysiadu polisi tebyg. Ystyriwyd a ddylai darpariaeth o ran adolygu gael ei chynnwys, ond penderfynwyd na ddylid gwneud hynny am y rhesymau a ganlyn:

 

·         nid oes rhwymedigaeth ar Weinidogion Cymru i fabwysiadu darpariaeth o ran adolygu mewn perthynas â beichiau rheoleiddiol;

·         bydd agenda Fframwaith yr Amgylchedd Naturiol/Bil yr Amgylchedd yn darparu ar gyfer adolygu’r ddeddfwriaeth; a   

·         deallir nad oes unrhyw un o’r gweinyddiaethau datganoledig eraill yn bwriadu cynnwys darpariaeth debyg yn eu rheoliadau.

 

David Melding AC

Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

24 Medi 2012

 

Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd A Rhywogaethau (Diwygio) 2012

 

Bydd y Rheoliadau cyfansawdd hyn yn gymwys i Gymru a Lloegr ac maent yn ddarostyngedig i weithdrefn penderfyniad negydol yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ac nau dy Senedd y DU. Oherwydd y bydd y Rheoliadau hyn yn ddarostyngedig i graffu gan Senedd y DU, nid ystyrir ei bod hi'n rhesymol ymarferol i'r offeryn hwn gael ei osod, na'i wneud, yn ddwyieithog.